Enghraifft o: | math o endid cemegol |
---|---|
Math | straight chain fatty acids, alkanoic acid, short-chain fatty acid |
Màs | 46.005 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | Ch₂o₂ |
Clefydau i'w trin | Dafaden sylfaenol |
Rhan o | response to formic acid |
Yn cynnwys | ocsigen, carbon, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asid gwan yw asid fformig, y symlaf o deulu o asidau o'r enw asid carbocsylig, ac fe adnabyddwn ef weithiau gyda'r enw 'asid methanoig'. Ei fformiwla gemegol ydyw HCOOH neu CH2O2.
Mae'n digwydd ym myd natur: fe'i geir ym mhigiad y morgrugyn er enghraifft, yn ogystal â'r wenynen. Mae hefyd yn gynnyrch tannwydd amgen cerbydau diweddar sy'n llosgi methanol ac ethanol os yw'n cael ei halogi gan ddŵr a gasolin.
O'r gair Lladin formica y daw ei enw (fel llawer o enwau gwyddonol): ystyr formica ydy morgrugyn ac roedd morgrug yn cael eu distyllu gan y Rhufeiniaid mewn cerwyni mawr er mwyn creu asid fformig.