![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | math o endid cemegol ![]() |
---|---|
Math | mineral acid, nitrogen oxoacid, monoprotic acid ![]() |
Màs | 62.995643 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | Hno₃ ![]() |
Yn cynnwys | ocsigen, nitrogen, hydrogen ![]() |
![]() |
Mae asid nitrig (HNO3), hefyd yn cael ei adnabod fel aqua fortis (nitric acid) yn Saesneg. Mae'n asid cyrydol a thocsig iawn. Mae'n asid cryf a gall achosi llosgiadau enbyd i'r croen a'r cnawd. Soniwyd am greu asid nitrig yn gyntaf tua'r flwyddyn 800 OC gan y fferyllydd o Bersia Jabir ibn Hayyan (Geber).[1]
Yn ei gyflwr puraf, mae'r asid hwn yn gwbwl ddi-liw, ond wrth heneiddio, gall droi'n felyn golau oherwydd y nitrogen ocsid. Pan fo hylif yn cynnwys dros 86% o asid nitrig, mae'n cael ei alw'n 'fygdarth' ('fuming' yn Saesneg) gyda gwawr goch neu wyn iddo - yn dibynnu faint o nitrogen deuocsid sydd ynddo.