![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | math o endid cemegol ![]() |
---|---|
Math | mineral acid, diprotic acid, sulfur oxoacid ![]() |
Màs | 97.967379544 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | H₂so₄ ![]() |
Yn cynnwys | hydrogen, ocsigen, sylffwr ![]() |
![]() |
Asid cryf ydy asid swlffwrig (neu asid sylffwrig), H2SO4. Mae'n hydoddi mewn dŵr, ni waeth pa mor gryf ydyw. Bathodd alcemydd Mwslemaidd o'r 8g, sef Jabir ibn Hayyan, y term olew fitriol i'w ddisgrifio, ar ôl iddo ei ddarganfod. Vitriol neu vitreus oedd y gair Lladin am wydr gan fod yr halennau swlffad yn edrych fel gwydr.
Caiff ei ddefnyddio'n helaeth; yn wir mae'n un o ddeunyddiau mwyaf poblogaidd y diwydiant cemeg. Yn 2001 roedd y byd yn cynhyrchu 165 miliwn tunnell ohono, gyda gwerth yr asid biliwn doler UDA. Fe'i defnyddir i brosesu mwynau ac i gynhyrchu gwrtaith. Caiff hefyd ei ddefnyddio yn y broses o buro olew a chemegolion eraill.
Fe'i ceir mewn glaw asid, batris ac yn atmosffer y blaned Gwener.