![]() | |
![]() | |
Math | talaith India ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | uneven, Ahom Kingdom ![]() |
Prifddinas | Dispur ![]() |
Poblogaeth | 31,205,576 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Himanta Biswa Sarma ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Asameg, Bodo, Bengaleg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | India ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 78,438 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Nagaland, Arunachal Pradesh, Manipur, Meghalaya, Tripura, Gorllewin Bengal, Mizoram, Sylhet Division, Bhwtan ![]() |
Cyfesurynnau | 26°N 93°E ![]() |
IN-AS ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Assam Legislative Assembly ![]() |
Corff deddfwriaethol | Assam Legislative Assembly ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Banwarilal Purohit ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Assam ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Himanta Biswa Sarma ![]() |
![]() | |
Mae Assam neu Asám[1] yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India. Arwynebedd y dalaith yw 78,438 km sgwar, tua'r un faint ag Iwerddon. Roedd y boblogaeth yn 26,655,528 yn 2001. Ei phrifddinas yw Dispur, rhan o Guwahati. Mae'n ffinio â thaleithiau Indiaidd Arunachal Pradesh, Nagaland, Manipur, Mizoram, Tripura a Meghalaya, a hefyd â Bhwtan i'r gogledd a Bangladesh i'r de. Y prif grefyddau yw Hindwaeth (63.13%) ac Islam (32.43%). Tua diwedd y 1980au ac yn y 1990au bu galw am fwy o ymreolaeth gan gymuned y Bodo a thyfodd grwpiau arfog megis yr United Liberation Front of Assam (ULFA), sy'n galw am annibyniaeth i Assam, a'r National Democratic Front of Bodoland (NDFB) sy'n galw am greu talaith ymreolaethol Bodoland o fewn Assam.
Mae'r dalaith yn adnabyddus am de Assam (tyfir 60% o de India yno), ac am yr amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn cynnwys y Rheinoseros Indiaidd ym Mharc Cenedlaethol Kaziranga. Mae'r afon Brahmaputra yn llifo trwy'r dalaith.