Math | Asiantaeth newyddion |
---|---|
Diwydiant | cyfrwng newyddion, y diwydiant cyfryngau |
Sefydlwyd | 22 Mai 1846 |
Pencadlys | Dinas Efrog Newydd |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | newyddion |
Is gwmni/au | Associated Press Television News |
Lle ffurfio | Dinas Efrog Newydd |
Gwefan | https://ap.org/, https://apnews.com |
Asiantaeth newyddion Americanaidd ryngwladol yw Associated Press (byrfodd arferol: AP). Fe'i sefydlwyd yn 1846 yn Ninas Efrog Newydd lle ceir y pencadlys o hyd. Mae'n asiantaeth gydweithredol ddi-elw sy'n perthyn i'r papurau newydd, gorsafoedd radio a theledu yn yr Unol Daleithiau sy'n cyfrannu straeon iddi ac sy'n defnyddio deunydd newyddion a ysgrifennir gan staff AP. Mae nifer o bapurau ac asiantaethau eraill y tu allan i UDA yn danysgrifwyr i AP, ac yn talu ffi i ddefnyddio deunydd AP heb gyfrannu eu hunain i'r asiantaeth.
Yn 2005, roedd newyddion gan AP yn cael ei gyhoeddi a'i ailgyhoeddi gan dros 1,700 papur newydd, yn ogystal â thua 5,000 o ddarlledwyr radio a theledu. Ceir mwy na 10 miliwn delwedd yn llyfrgell ffotograffau AP. Mae'n rhedeg 243 swyddfa newyddion gan wasanaethu 121 o wledydd, gyda staff o sawl gwlad o gwmpas y byd.