Astec

Astec
Enghraifft o:gwareiddiad, grwp ethnig hanesyddol, diwylliant Edit this on Wikidata
Dechreuwydc. 1200 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1521 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ymerodraeth yr Astec

Defnyddir Aztec neu Astec fel disgrifiad o nifer o grwpiau ethnig yng nghanolbarth Mecsico, yn arbennig grwpiau yn siarad yr iaith Nahwatleg. Daethant yn feistri ar ran helaeth o Ganol America o'r 14g i'r 16g, gan ffurfio Ymerodraeth yr Asteciaid. Canolbwynt y gwareiddiad Astecaidd oedd Dyffryn Mecsico.

Weithiau defnyddir y term "Astec" ar gyfer pobl dinas-wladwiaeth Tenochtitlan yn unig. Y ddinas yma, ar ynys yn Llyn Texcoco, Dinas Mecsico yn awr, a alwai eu hunain y "Mexica". Gall hefyd gynnwys y ddwy ddinas-wladwriaeth oedd yn gyngheiriaid a Tenochtitlan, yr Acolhua o Texcoco a'r Tepanec o Tlacopan. Gellir hefyd sôn am wareiddiad yr Asteciaid, yn cynnwys yr holl wladwriaethau Altepetl.

Yn 1521, ymosododd Hernán Cortés, gyda nifer fychan o Sbaenwyr a byddin fwy o gyngheiriaid o Nahwatliaid, ar Tenochtitlan a'i choncro, gan roi diwedd ar ymerodraeth yr Astec.

Eginyn erthygl sydd uchod am Fecsico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne