Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | bronchospasm, clefyd |
Symptomau | Peswch, llid, gwichian wrth anadlu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y bronci neu'r pibellau gwynt yn culhau yw asthma (neu'r fogfa)[1] ac felly'n achosi anawsterau anadlu. Gall asthma fod yn angheuol os na chaif ei drin. Gall asthma redeg yn y teulu a gall achosi alergeddau.
Mae asthma yn gyflwr cyffredin, tymor hir neu gronig. Mae’n effeithio rhyw bum miliwn o bobl ym Mhrydain. Yn ystod plentyndod mae asthma yn aml yn dechrau, ond gall ddigwydd am y tro cyntaf i rywun o unrhyw oed. Mae asthma yn effeithio ar y llwybrau anadlu – y tiwbiau sy’n cario aer i mewn ac allan o’ch ysgyfaint. Efo asthma, bydd y llwybrau anadlu yn sensitif iawn a byddant yn chwyddo ac yn tynhau wrth i'r person anadlu unrhyw beth sy’n effeithio ar yr ysgyfaint, fel mwg neu alergenau megis paill. Mae hyn yn gallu achosi i’r frest deimlo’n dynn a gwichian, a’i gwneud anadlu'n anoddach. Bydd ryw draean o blant sydd ag asthma yn cael problemau pan fyddant yn oedolion. Nid oes gwellhad, ond o gael y driniaeth iawn a’i defnyddio’n gywir, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweld eu bod nhw’n gallu rheoli’u symptomau a byw bywyd normal. O gymharu, mae clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint(COPD) fel arfer yn effeithio ar bobl hŷn. Mae COPD hefyd yn gallu achosi gwichian, ond mae hyn oherwydd bod y llwybrau anadlu wedi culhau yn fwy parhaol, ar ôl bod yn anadlu rhywbeth llidus(irritant)am gyfnod hir - mwg sigarét yw’r un mwyaf cyffredin.