Aston Martin Valkyrie | |
---|---|
![]() Y car cysyniadol, Valkyrie. | |
Brasolwg | |
Gwneuthurwr | Aston Martin |
Ail enw | Nebula (enw gwreiddiol, mewnol) AM-RB 001 (enw-mewnol terfynol) |
Cynhyrchwyd | 2018 (cychwyn cynhyrchu) |
Adeiladwyd yn | Gaydon, Warwickshire, Lloegr |
Cynlluniwyd gan | Adrian Newey |
Corff a siasi | |
Dosbarth | Car cyflym (S) |
Math o gorff | coupé 2-ddrws |
Gosodiad | Mid-engine |
Pweru a gyriant | |
Injan | 6.5 L Cosworth naturally-aspirated V12 |
Pwer | 1,130 hp (843 kW; 1,146 PS) |
Trosglwyddiad | 7-speed Ricardo dual-clutch |
Batri | Rimac-built KERS hybrid battery system |
Maint | |
Pwysau | 1,030 kg (2,271 lb) |
Mae'r Aston Martin Valkyrie (a elwir hefyd yn enwau mewnol AC-RB 001 a Nebula) yn gar coupé 2-ddrws cyflym, trydan hybrid. Cychwynwyd cynhyrchu'r car yn 2018, a hynny ar y cyd gan Aston Martin, Red Bull Racing a sawl gweithgynhyrchydd arall. Daw'r gair valkyrja o chwedloniaeth Hen Norwyeg; roedd hi'n un o nifer o dduwiesau a ddewisiai pwy mewn brwydr a oedd yn byw a phwy a oedd yn marw. Datgelwyd yr enw 'Valkyrie' yn enw newydd sbon yn 2017.
Mae'r car chwarae yma'n gynnyrch sawl blwyddyn o gydweithio rhwng Aston Martin a Red Bull Racing i greu car y gellir ei ddefnyddio fel car ffordd. Mae gwneuthurwyr y car yn honni mai hwn yw'r car stryd cyflymaf yn y byd. Un o'r prid ddylunwyr oedd Adrian Newey, Prif Swyddog Technegol Red Bull Racing a dylunydd F1 mwyaf llwyddiannus y byd.[1][2]
Ei brif gystadleuwyr yw ceir Mercedes-AMG, a McLaren Senna.[3][4][5]
Yn ogystal â Red Bull, cydweithiodd nifer o gwmniau gan gynnwys: Cosworth, Ricardo, Rimac Automobili, Multimatic, Alcon, Bosch, Surface Transforms, Wipac, a Michelin.