Enghraifft o: | branch of astronomy, disgyblaeth academaidd, arbenigedd, maes astudiaeth, pwnc gradd |
---|---|
Math | seryddiaeth, ffiseg |
Yn cynnwys | gwyddoniaeth y planedau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Seryddiaeth | |
Lleuad |
Astroffiseg yw'r gangen o seryddiaeth sy'n delio â ffiseg a chemeg y bydysawd h.y. gwneuthuriad ffisegol y planedau, y sêr a gwrthrychau eraill yn hytrach na'u lleoliad neu symudiad drwy'r gofod. Mae hyn yn cynnwys priodweddau megis dwysedd, tymheredd, cyfansoddion cemegol a goleuedd o wrthrychau wybrennol e.e. galaethau, sêr, planedau, planedau allheulol, a'r cyfrwng rhyngserol, yn ogystal a'i rhyngweithiadau.[1][2]
Astudir pelydriad (radiation) y gwrthrychau hyn; gwneir hynny ar draws y sbectrwm elecromagnetig, gyda nifer o briodweddau gan gynnwys disgleirdeb (luminosity), dwysedd, tymheredd a chyfansoddiadau cemegol. Gan fod astroffiseg yn faes mor eang astudir ystod eang o feysydd gan gynnwys mecaneg, electromagneteg, mecaneg ystadegol, thermodeinameg, mecaneg cwantwm, Damcaniaeth perthnasedd, ffiseg niwclear a gronynnol a ffiseg atomig, moleciwlar ac optegol.
|deadurl=
ignored (help)