Astrofioleg

Astrofioleg
Enghraifft o:cangen o fywydeg, branch of astronomy, disgyblaeth academaidd, arbenigedd, pwnc gradd, maes astudiaeth Edit this on Wikidata
Mathbywydeg, seryddiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Astrofioleg yw'r astudiaeth o fywyd yn y gofod sy'n cyfuno elfennau o seryddiaeth, bioleg a daeareg yn ei disgyblaeth. Ei phrif ganolbwynt yw astudio tarddiad, dosraniad ac esblygiad bywyd. Daw'r enw o'r geiriau Groeg αστρον (astron 'seren'), βιος (bios 'bywyd') a λογος (logos 'gair/gwyddoniaeth); enwau arall arni yw allfioleg (exobiology) neu estronfioleg (xenobiology).

Mae meysydd pwysicaf astrofioleg yn cynnwys:

  1. Beth ydy bywyd?
  2. Sut dechreuodd bywyd ar y Ddaear?
  3. Pa fath o amgylcheddau sy'n addas i fywyd?
  4. Sut medrwn ni ddarganfod os oes bywyd ar blanedau eraill? Pa mor aml ydyw'r bywyd hwnnw'n 'gymhleth' (h.y. esblygiedig)?
  5. Pa ffurfiau fydd i fywyd ar blanedau eraill?

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne