Athletau yn y Gemau Olympaidd | |
Lleoliad | Stadiwm Olympaidd Llundain |
---|---|
Dyddiad | 3–12 Awst |
Cystadleuwyr | 2231 (1160 o ddynion, 1071 o ferched)[1][2] |
«2008 |
Cynhaliwyd Athletau yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 yn ystod 10 diwrnod diwethaf y gemau: rhwng 3 Awst hyd at y 12fed o Awst yn Stadiwm Olympaidd Llundain. Gellir rhannu'r chwaraeon hyn yn bedwar categori neu ddosbarth: trac a maes, rhedeg ffordd a'r rasus cerdded.
Bydd 2,000 o gystadleuwyr yn cymryd rhan mewn 47 cystadleuaeth gyda'r gwahaniaeth yn y cystadleuthau dynion a merched yn fach iawn. Bydd 24 cystadleuaeth i'r dynion a 23 i'r merched, gan nad yw'r merched yn cystadlu yng nghystadleuaeth cerdded 50 km. Yn yr un modd, mae'r dynion yn rhedeg ras 110 (clwydi) a'r decathlon a'r merched yn eu tro yn rhedeg y ras 100m a'r heptathlon.