Mewn prifysgolion, gellir rhoi'r teitl athro emeritws (yn achos dyn) neu athro emerita (yn achos merch) i athro cadeiriol sydd wedi ymddeol.[1] Fel arfer, bydd gan brifysgolion system o enwebu a chymeradwyo enwau unigolion i gael y teitl, ac fel arfer ni fydd tâl yn gysylltiedig â'r swyddogaeth. Yn dibynnu ar arferion y brifysgol ac amgylchiadau penodol, mae'n bosib y bydd gan athrawon emeriti ofod swyddfa neu freintiau eraill yn y brifysgol.
Roedd Robert Thomas Jenkins yn athro emeritws ym Mhrifysgol Bangor o 1948 hyd ei farwolaeth.[2]