Enghraifft o: | un o ganghennau athroniaeth ![]() |
---|---|
Math | athroniaeth ![]() |
Rhan o | education policy, sociology and philosophy ![]() |
![]() |
Athroniaeth sydd yn ymwneud â natur, amcanion, ffurfiau, dulliau, a phroblemau addysg yw athroniaeth addysg. Cangen o athroniaeth gymhwysol ydyw, sy' defnyddio dulliau athronyddol i ddadansoddi gwaith a swyddogaeth yr athro. Gallai'r maes hwn hefyd ymdrin â'r berthynas rhwng addysg a chyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol ehangach.[1][2] Defnyddir yr ymadrodd athroniaeth addysg yn aml i ddisgrifio dull neu syniadaeth bedagogaidd benodol, ac mae'r ystyr honno yn gorgyffwrdd â damcaniaeth addysg.