Australopithecus africanus

Australopithecus africanus
Delwedd:Australopithèque Cerveau Double.jpg, Mrs Ples Face.jpg
Enghraifft o:ffosil (tacson) Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonAustralopithecus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Australopithecus africanus
Amrediad amseryddol: Plïosen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primatiaid
Is-urdd: Haplorhini
Teulu: Hominidae
Llwyth: Hominini
Genws: Australopithecus
Rhywogaeth: africanus

Aelod o'r genws Australopithecus (o'r is-lwyth Australopithecine) a fu'n byw ar y Ddaear ac sydd bellach wedi'i ddifodi yw Australopithecus africanus. Dyma'r hominin cyntaf i esblygu o'r epa ac mae'n perthyn yn agos iawn i'r Australopithecus afarensis. Fe'i dosbarthwyd i'r tacson hwn yn 924. Yn ddiweddar, yn dilyn ymchwil gan Paleoanthropolegwyr ac archaeolegwyr dyddiwyd y ffosiliau i rhwng 3.3 a 2.1 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP), h.y. yn ystod yr epoc Plïosen hwyr a chychwyn y Pleistosen.

Cred nifer o baleoanthropolegwyr fod A. africanus yn perthyn yn uniongyrchol i fodau dynol modern.[1] Dim ond mewn pedwar lleoliad yn ne Affrica y cafwyd hyd i esgyrn yr A. africanus, ac mae'r darganfyddiadau hyn i gyd yn awgrymu ei fod yn rhywogaeth tal a main. Y lleoliadau hyn yw: Taung (1924), Sterkfontein (1935), Makapansgat (1948) ac Ogof Gladysvale (1992).[2]

  1. "Human Evolution by The Smithsonian Institution's Human Origins Program". si.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-11-02. Cyrchwyd 2016-07-16.
  2. "Australopithecus africanus". archaeologyinfo.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-06-13. Cyrchwyd 2016-07-16.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne