Enghraifft o: | symudiad celf, mudiad llenyddol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r term avant-garde yn dod o'r Ffrangeg, golyga yn llythrennol 'blaen leng' neu 'blaengad'. Defnyddir ac arddelir y term gan bobl mewn gweithiau celf arbrofol neu an-uniongred, cerddoriaeth neu gymdeithas a gall gynnig beirniadaeth neu gritic yn y berthynas rhwng y cynhyrchydd a'r consiwmydd.
Bydd yr avant-garde yn gwthio ffinio o'r hyn sy'n dderbyniol fel norm, yn enwedig ym maes diwylliant. Gwelir hi fel bathodyn o'r hyn yw moderniaeth, yn wahanol i ôl-foderniaeth. Bydd nifer o artistiaid yn uniaethu gyda'r mudiad avant-garde ac yn dal i wneud gan olrhain y traddodiad o fudiad Dada i'r Situationists ac i'r artistiaid ôl-fodern ddechrau'r 1980au.
Mae'r avant-garde hefyd yn hyrwyddo diwygiadau cymdeithasol radical. Dyma oedd gwraidd ystyr dyfyniad Olinde Rodrigues yn ei erthygl "L'artiste, le savant et l'industriel" ("Yr artist, y gwyddonydd a'r diwydiannwr", 1825) sy'n cynnwys y cyfeiriad cyntaf i'r term "avant-garde" yn ei ystyr gyfoes. Galwodd Rodrigues ar i artistiaid "wasanaethu fel 'avant-garde' y bobl", gan fynnu "mae angen grym y ceflyddydau yn y modd mwyaf unionsyth a cyflymaf" er mwyn diwygiad cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd.[1]