Poster theatraidd | |
---|---|
Cyfarwyddwr | James Cameron |
Cynhyrchydd | James Cameron Jon Landau |
Ysgrifennwr | James Cameron |
Serennu | Sam Worthington Zoe Saldana Stephen Lang Michelle Rodriguez Giovanni Ribisi Joel David Moore C. C. H. Pounder Wes Studi Laz Alonso Sigourney Weaver |
Cerddoriaeth | James Horner |
Sinematograffeg | Mauro Fiore |
Golygydd | James Cameron John Refoua Stephen E. Rivkin |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Lightstorm Entertainment Dune Entertainment Ingenious Film Partners |
Dosbarthydd | 20th Century Fox |
Dyddiad rhyddhau | 10 Rhagfyr 2009 (dangosiad cyntaf, Llundain) 18 Rhagfyr 2009 (Unol Daleithiau) |
Amser rhedeg | 162 munud[1] |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $237,000,000[2] |
Refeniw gros | $1,335,040,297[3] |
Ffilm epig ffuglen wyddonol Americanaidd o 2009 yw Avatar. Fe'i hysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan James Cameron ac mae'n serennu Sam Worthington, Zoe Saldana, Sigourney Weaver, Michelle Rodriguez, a Stephen Lang. Gosodir y ffilm yn y flwyddyn 2154 ar Pandora, lloeren yn y system serol Alpha Centauri.[4] Mae bodau dynol yn mwyngloddio mwyn gwerthfawr ar Pandora, tra bo'r Na'vi—hil led-ddynol frodorol—yn gwrthsefyll ymlediad y gwladychwyr, sydd yn bygythio bodolaeth y Na'vi ac ecosystem Pandora. Cyfeiria teitl y ffilm at y cyrff, a greir gan ddefnyddio peirianneg enetig, a ddefnyddir gan gymeriadau'r ffilm i ryngweithio â'r Na'vi.[5]
Dechreuodd Cameron ddatblygu Avatar ym 1994, pan ysgrifennodd scriptment 80 tudalen o hyd ar gyfer y ffilm.[6] Bwriadwyd i ffilmio ddechrau wedi cwblhad Titanic, ac yn ôl Cameron bydd y ffilm wedi'i rhyddhau ym 1999 os nad oedd "angen i dechnoleg dal lan" â'i weledigaeth o'r ffilm.[7][8] Ddechrau 2006, datblygodd Cameron y sgript, iaith y Na'vi,[9] a diwylliant Pandora. Awgrymodd Cameron bod dilyniannau yn bosib os yw Avatar yn llwyddiannus.[10][11][12][13][14][15]
Rhyddhawyd y ffilm mewn fformat 2-D traddodiadol, yn ogystal â fformatau 3-D ac IMAX 3D. Yn swyddogol cyllideb Avatar yw UD$237 miliwn;[2] mae amcangyfrifon eraill yn awgrymu cost o $280–310 miliwn i gynhyrchu a $150 miliwn am farchnata.[16][17][18] Honnir bod y ffilm yn bwysig yn nhermau technoleg gwneuthuriad ffilmiau, am ei datblygiad o olwg 3-D a gwneuthuriad ffilm stereosgopig gyda chamerâu a ddylunir yn arbennig at gynhyrchiad y ffilm.[19]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw www.nytimes.com