Ysgol feddwl neo-Farcsaidd yw Awstro-Farcsiaeth a fu ar ei hanterth yn Awstria o 1904 hyd at ganol y 1930au. Dyma un o'r ffurfiau neilltuol cynharaf ar Farcsiaeth, a datblygodd ar sail gwaith cylch o wleidyddion a deallusion yn Fienna yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, yn eu plith Max Adler (1873–1937), Otto Bauer (1881–1938), Rudolf Hilferding (1877–1941), a Karl Renner (1870–1950). Dylanwadwyd arnynt gan neo-Kantiaeth a phositifiaeth, a dadl y Marcswyr Almaenig ynglŷn ag adolygiadaeth, a ffurfiasant eu syniadaeth mewn ymateb i ddatblygiadau mewn damcaniaeth economaidd, yn bennaf syniadau'r ffiniolwyr (marginalists), a chwerylon yr amryw genhedloedd yn Awstria-Hwngari. Daeth y mudiad i sylw'r cyhoedd yn sgil cyhoeddi'r Marx-Studien, casgliad o draethodau a gyhoeddwyd dan olygyddiaeth Adler a Hilferding o 1904 i 1923.