Math | cangen o'r fyddin |
---|---|
Yn cynnwys | air force infantry and special forces unit, airborne forces, air force personnel |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwasanaeth milwrol neu arfog sy'n arbenigo mewn rhyfela awyrennol yw awyrlu neu lu awyr. Ystyr "llu" ydy casglad neu griw mawr o bobl. Mae'n un o dair rhan arferol o luoedd milwrol cenedlaethol: yr awyrlu, y llynges a'r fyddin.
Yn y Deyrnas Unedig mae'r Awyrlu Brenhinol yn atebol i'r adran honno o'r llywodraeth a elwir yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda'i phencadlys yn y Neuadd Wen, Llundain.[1] Yr Awyrlu Brenhinol yw'r awyrlu hynaf yn y byd, a sefydlwyd ar 1 Ebrill 1918 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[2]