Ail lythyren yr wyddor Ladin a'r wyddor Gymraeg yw B. Mewn nifer o ieithoedd mae'r llythyren hon yn cael ei defnyddio i ddynodi'r ffrwydrolyn dwywefusol lleisiol /b/.
Yn y Gymraeg mae b yn cael ei heffeithio gan dreigladau meddal a thrwynol, yn ogystal â bod yn ffurf dreigledig ar y llythyren p.