![]() | |
Enghraifft o: | tacson ![]() |
---|---|
Math | meicro-organeb ![]() |
Safle tacson | Parth (bioleg) ![]() |
Rhiant dacson | Biota ![]() |
Dechreuwyd | Mileniwm 3501. CC ![]() |
![]() |
Organebau microsgopig ungellog yw bacteria. Mae ganddynt gelloedd procaryotig syml. Does ganddynt ddim cnewyllyn diffiniedig nac organynnau fel cloroplastau a mitocondria. Maent yn niferus iawn mewn pridd, dŵr ac y tu mewn i organebau eraill. Mae rhai bacteria'n achosi clefydau fel tetanws a cholera.
Mae bacteria'n fwy na firysau; mae ganddynt gell brocaryotig gyfan, gyda'u holl swyddogaethau metabolaidd eu hun. Mae’r genynnau bob amser yn DNA a gallant fod yn rhai sy'n byw'n rhydd, gan achosi haint ddim ond drwy siawns, neu'n gydfwytaol (yn byw'n ddiniwed ar y croen neu yn y coludd), gan achosi haint dim ond drwy siawns neu’n barasitiaid anochel sy'n byw ddim ond drwy heintio ac mae'n rhaid iddynt gael eu trosglwyddo o un organeb letyol i'r llall.[1]
|accessdate=
(help)