![]() | |
Math | Taleithiau Affganistan ![]() |
---|---|
Prifddinas | Fayzabad ![]() |
Poblogaeth | 1,054,087 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Shah Waliullah Adeeb ![]() |
Cylchfa amser | UTC+04:30 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Dari, Wsbeceg, Pashto, ieithoedd Pamir ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Affganistan ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 44,059 km² ![]() |
Uwch y môr | 3,669 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Takhar Province, Khyber Pakhtunkhwa ![]() |
Cyfesurynnau | 38°N 71°E ![]() |
AF-BDS ![]() | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | llywodraethwr ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Shah Waliullah Adeeb ![]() |
![]() | |
Mae Badakhshan (Perseg: بدخشان Badakhshān) yn un o daleithiau Affganistan, sy'n cynnwys 29 ardal. Lleolir y dalaith yng ngogledd-ddwyrain y wlad, rhwng pen gogleddol yr Hindu Kush a'r Amu Darya. Mae'n rhan o ranbarth hanesyddol Badakhshan. Fayzabad yw prifddinas y dalaith.
Mae Badakhshan yn ffinio ar Tajicistan i'r gogledd a'r dwyrain. Ymestyn rhimyn tenau o'r dalaith, a adnabyddir fel Coridor Wakhan, uwchben talaith Chitral yng ngogledd Pacistan i ffinio â Tsieina. Mae gan y dalaith cyfanswm o 44,059 km² o dir, gyda'r rhan fwyaf ohono yn cael ei llenwi gan fynyddoedd uchel yr Hindu Kush a'r Pamir.
Roedd Badakhshan yn gorwedd ar Lwybr y Sidan, yr hen lwybr masnach a gysylltai Tsieina a'r Dwyrain Canol trwy Ganolbarth Asia. Ers cwymp y Taliban mae llywodraeth Tsieina wedi cyfrannu'n sylweddol at gost prosiectau i wella ffyrdd y dalaith, efallai gyda golwg ar ei chyfoeth mwynol.
Tajikiaid yw'r mwyafrif o'r 1,542,000 trigolion, gyda lleiafrifoedd Uzbek a Kyrgyz.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o weddill Affganistan, mae'r Sunni yn ffurfio mwyafrif o'r boblogaeth, a cheir yn ogystal lleiafrif Mwslem Ismailia. Oherwydd y gwahaniaethau ethnig ac enwadol hyn, ni fu'r dalaith erioed yn gadarnle i'r Taliban. Ar sawl ystyr mae'r ardal yn agosach yn ddiwyllianol i wledydd Mwslim Canolbarth Asia i'r gogledd, fel Cirgistan.
Taleithiau Affganistan | ![]() |
---|---|
Badakhshan | Badghis | Baghlan | Balkh | Bamiyan | Daykundi | Farah | Faryab | Ghazni | Ghor | Helmand | Herat | Jowzjan vJowzjan | Kabul | Kandahar | Kapisa | Khost | Kunar | Kunduz | Laghman | Lowgar | Nangarhar | Nimruz | Nurestan | Oruzgan | Paktia | Paktika | Panjshir | Parwan | Samangan | Sar-e Pol | Takhar | Wardak | Zabul |