![]() | |
Math | bae ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caint (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.3°N 1.4°E ![]() |
Cod OS | TR356633 ![]() |
![]() | |
Bae bas ar arfordir dwyreiniol Caint, De-ddwyrain Lloegr, yw Bae Pegwell (Saesneg: Pegwell Bay).[1] Fe'i lleolir i'r gogledd o Fae Sandwich, rhwng Sandwich a Ramsgate. Mae aber Afon Stour yn ymuno â Chulfor Dover yma.
Mae rhan o'r bae yn warchodfa natur, gyda chynefinoedd glan y môr gan gynnwys traethellau lleidiog a morfa heli lle mae rhydyddion mudol ac adar gwyllt eraill yn dod i fwydo.
Yng ngogledd-ddwyrain y bae mae olion hofranport Hoverlloyd. Roedd gwasanaeth hofranlong traws-sianel a oedd yn cludo cerbydau a theithwyr i Calais, Ffrainc, yn gweithredu oddi yma rhwng 1969 a 1982.