Bagillt

Bagillt
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,165, 3,969 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd959.14 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.268°N 3.168°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000179 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ221752 Edit this on Wikidata
Cod postCH6 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DUMark Tami (Llafur)
Map

Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Bagillt.[1] Saif rhwng Treffynnon (3 km i'r gorllewin) a'r Fflint (2 km i'r de-ddwyrain). Poblogaeth Cymuned Bagillt yw 3,918 (Cyfrifiad 2001).

Yn Llyfr Dydd y Farn (1086), ei enw oedd Backelie.[2] Benthyciad o'r Saesneg, wedi'i Gymreigio, yw'r enw felly. Mae Backelie yn ffurf ar y Saesneg Bacga's lea 'llannerch Bacga'.[3] Gerllaw, ceir tomen mwnt a beili o'r enw Mwnt Bryn Castell.

Tyfodd Bagillt yn gyflym yn y 19eg ganrif. Codwyd Eglwys y Santes Fair yno rhwng 1837 a 1839 fel ymateb i hynny. Poblogaeth y plwyf yn 1901 oedd 2,637.

Mae Bagillt yn enwog am greu'r rhod ddŵr enwog yn Laxey, Ynys Manaw.

Enwyd llyn ar ôl y pentref yn Chubut, Patagonia, Yr Ariannin; sef Llyn Bagillt.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[5]

  1. British Place Names; adalwyd 14 Hydref 2022
  2. Bagillt yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  3. Ifor Williams, Enwau Lleoedd (1945), tud. 6.
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne