Baglan, Castell-nedd Port Talbot

Baglan
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBaglan Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,819, 6,751 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd901.86 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6166°N 3.8115°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001020 Edit this on Wikidata
Cod OSSS746924 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDavid Rees (Llafur)
Map

Pentref mawr a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Baglan.[1][2] Mae'n hen bentref a phlwyf cynt sydd nawr yn rhan o dref Porth Afan ar ochr ddwyreiniol Bae Abertawe. Mae gan ardal cymuned Baglan 6,488 o drigolion, 10% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Enwyd y pentref ar ôl Sant Baglan. Bu Sant Baglan yn cael ei ddysgu ym mynachlog Llanilltud Fawr gan Illtud, fel Dewi Sant a llawer o seintiau eraill. Fel nhw aeth allan i sefydlu mynachdai eraill. Mae ei enw ar bentrefi Baglan a Llanfaglan.

Maes Clwb Rygbi Baglan

Mae Baglan ar lethrau Mynydd Baglan. Rhwng Baglan a'r môr mae ardal Bae Baglan, ardal dywydog sydd wedi bod yn gartref i ddywidiant ers yr Ail Ryfel Byd. Roedd gweithfeydd cemegol BP Baglan Bay yn amlwg i bawb am ddegawdau ond nawr maen nhw wedi cael eu disodli gan ddiwydiannau amgen modern fel rhan o ddatblygiad Parc Ynni Baglan.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[3].

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 30 Hydref 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne