Math | ocean bank, ucheldir |
---|---|
Enwyd ar ôl | dogger, glannau |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, Yr Iseldiroedd, Denmarc, yr Almaen |
Arwynebedd | 17,600 km² |
Gerllaw | Môr y Gogledd |
Cyfesurynnau | 55.25°N 3.5°E |
Hyd | 260 cilometr |
Banc tywod anferthol yng nghanol Môr y Gogledd yw Banc Dogger (Iseldireg: Doggersbank, Almaeneg: Doggerbank, Daneg: Dogger banke). Saif oddeutu 100 km (62 mill) i'r dwyrain o arfordir dwyreiniol Lloegr. Mae gan y tywyn ei hun arwynebedd o 17,600 km2 (6,800 millt2) - gyda'i hyd yn 260 km (160 mi) a'i led yn 97 km (60 mill) - ac mae'n gorwedd 17–36 m (55-120 tr) dan wyneb y dŵr. Mae gwely'r môr o'i gwmpas, ar gyfartaeldd, 20 m (66 tr) yn is.[1]
Gwyr pysgotwyr ers canrifoedd ei fod yn fan gwych i bysgota a daw ei enw o'r Hen Iseldireg am gychod dal penfras.
Mae sawl brwydr môr wedi'i ymladd ar y banc gan gynnwys Brwydr Banc Dogger yn 1696, 1781, 1915 ac yn 1966 pan suddwyd un o longau tanfor yr Almaen.