![]() | |
Enghraifft o: | asiantaeth lywodraethol ![]() |
---|---|
Math | banc, corff awdurdodol, awdurdod ariannol, menter gyhoeddus ![]() |
Pennaeth y sefydliad | central bank governor ![]() |
![]() |
Mae banc canolog yn fanc sy'n gweithredu polisïau ariannol llywodraeth gwlad neu wladwriaeth, gan weithredu fel bancwr i'r llywodraeth ei hun ac i'r banciau masnachol yn ogystal.
Mae banciau canolog yn gyfrifol am ddal cronfeydd aur llywodraeth, rheoli cysylltiadau ariannol gyda gwledydd eraill ac ariannu dyled y llywodraeth.
Ceir banciau canolog yn y mwyafrif o wledydd y byd. Yn y DU Banc Lloegr yw'r banc canolog (er gwaethaf yr enw).
Ar ôl sefydlu'r Undeb Ewropeaidd creuwyd Banc Canolog Ewrop i chwarae rhan gyffelyb i rôl y banciau canolog cenedlaethol yn economi'r UE.