Mae baner De Swdan yn faner ar gyfer gwladwriaeth gymharol newydd a ffurfiwyd wedi degawdau o ryfel annibyniaeth gan ran fwyafrifol-Gristnogol Swdan yn erbyn Swdan fwyafrifol Arabaidd, mae felly yn adlewychu natur y frwydr honno.
Mabwysiadwyd y faner ar ôl arwyddo Cytundeb Naivasja, a gadarnhaodd ddiwedd yr ail ryfel cartref Swdan a sefydlu De Swdan [1] Defnyddiwyd y faner i ddechrau gan Fudiad Rhyddhau Pobl Sudan (SPLM). Mabwysiadwyd y faner yn 2005 ond ni ddaeth y wlad yn annibynnol nes 2011.[2][3]