Baner Awstria

Baner Awstria

Baner drilliw lorweddol o stribedi uwch ac is coch a stribed canol gwyn yw baner Awstria. Yn ôl chwedl daw'r dyluniad o grysbais waedlyd Dug Leopold V yn dilyn brwydr yn y Croesgadau. Roedd y stribed gwyn yn cynrychioli'r rhan lân o'i grysbais a orchuddiwyd gan wregys ei gleddyf.

Mae'r cofnod cyntaf o'r faner yn dyddio yn ôl i 1191, sy'n nodi baner Awstria fel un o rai hynaf y byd. Mabwysiadwyd yn swyddogol yn dilyn cwymp y Habsburgiaid a ffurfiad gweriniaeth yn 1918. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan oedd Awstria'n rhan o'r Drydedd Reich (gweler Anschluss), gwaharddwyd y faner a'r arfbais genedlaethol. Ail-fabwysiadwyd ar 1 Mai, 1945.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne