![]() | |
Enghraifft o: | baner cenedlaethol ![]() |
---|---|
Lliw/iau | glas, du, gwyn ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 21 Tachwedd 1918 ![]() |
Genre | horizontal triband ![]() |
![]() |
Baner drilliw lorweddol o stribedi glas (i gynrychioli ffyddlondeb ac awyr, môr a llynnoedd Estonia), du (sy'n symbolaidd o ormes y gorffennol, pridd y wlad, a siaced ddu draddodiadol y gwerinwyr) a gwyn (am rinwedd, yr eira, rhisgl y fedwen, a brwydr Estonia am ryddid) yw baner Estonia.
Mabwysiadwyd y faner drilliw yn gyntaf gan gymdeithas o fyfyrwyr gwlatgarol ym mhrifysgol Tartu yn 1881, pan oedd Estonia'n dal i fod yn rhan o ymerodraeth Rwsia. Fe'i dewiswyd yn faner swyddogol y weriniaeth Estonaidd ar 24 Chwefror 1918. Gwaharddwyd y faner yn y cyfnod Sofietaidd, nes iddi ail-ymddangos yn answyddogol yn 1987. Cantiatawyd ei hedfan unwaith eto yn 1988, ac ail-fabwysiadwyd hi fel y faner genedlaethol ar 8 Mai, 1990 yn fuan cyn adfer annibyniaeth y wlad oddi wrth yr Undeb Sofietaidd yn 1991.