![]() | |
Enghraifft o: | saig ![]() |
---|---|
Math | bara ![]() |
Y gwrthwyneb | leavened bread ![]() |
Yn cynnwys | blawd, dŵr, halen ![]() |
![]() |
Mae bara croyw (Groeg: azymos artos; Saesneg: "unleaven bread") yn un sawl math o fara nad yw'n cynnwys burum (lefain). Mae bara croyw, yn fara dilefain, ac felly wedi'i bobi heb ychwanegu unrhyw beth sy'n cynorthwyo'r broses o eplesu. Mae bara croyw felly wedi ei goginio heb furum, surdoes, soda pobi, corn carw neu asiant eplesu arall. Pwrpas ychwanegu burum yn y toes yw er mwyn iddo godi, fel bod swigod yn y bara; mae bara croyw, ar y llaw arall, yn fflat, heb fod ynddo swigod.
Y prif gynhwysion fel rheol yw blawd, halen, braster a dŵr. Ceir sawl gair arall am fara croyw, sef 'bara crai', 'bara cri' a 'bara dilefain'.
Ar y cyfan, mae baraoedd cryow yn fara gwastad, o ran ei ffurf, ond nid yw pob bara fflat yn ddi-furum. Mae bara croyw, fel y tortilla a'r roti, yn fwydydd craidd yng Nghanolbarth America a De Asia.