![]() | |
Enghraifft o: | gwaith drama-gerdd ![]() |
---|---|
Gwlad | yr Eidal ![]() |
Iaith | Eidaleg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1815 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1816 ![]() |
Genre | opera buffa, opera ![]() |
Cymeriadau | Ardalydd Almaviva, Bartolo, Rosina, Figaro, Basilio, Berta, Fiorello, Ambrogio, Swyddog Heddlu, Ynad, Notari, Cerddorion, milwyr, gweision, Cerddorion, milwyr, gweision ![]() |
Yn cynnwys | Una voce poco fa, Largo al factotum, Ecco, ridente in cielo, La calunnia è un venticello ![]() |
Libretydd | Cesare Sterbini ![]() |
Lleoliad y perff. 1af | Teatro Argentina ![]() |
Dyddiad y perff. 1af | 20 Chwefror 1816 ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus ![]() |
Lleoliad y gwaith | Sevilla ![]() |
Cyfansoddwr | Gioachino Rossini ![]() |
![]() |
Mae Barbwr Sevilla, neu'r Rhagofal Diwerth (Eidaleg: Il barbiere di Siviglia, ossia L'inutile precauzione) yn opera buffa mewn dwy act gan Gioachino Rossini gyda libreto Eidaleg gan Cesare Sterbini. Seiliwyd y libreto ar gomedi Ffrengig Pierre Beaumarchais, Le Barbier de Séville (1775). Perfformiwyd opera Rossini (dan y teitl Almaviva, o sïa L'inutile precauzione) ar 20 Chwefror 1816 yn y Teatro Argentina yn Rhufain,[1] gyda set wedi ei ddylunio gan Angelo Toselli.
Mae Barbwr Sevilla, Rossini wedi ei brofi i fod yn un o gampweithiau comedi mwyaf y byd cerddoriaeth glasurol, ac ar ôl dau gan mlynedd, mae'n parhau i fod yn waith poblogaidd.[2]