Swydd fygedol heb ddyletswyddau ffurfiol yw Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig. Serch hynny, bydd y bardd fel arfer yn cyfansoddi cerddi ar gyfer achlysuron cenedlaethol pwysig. Penodir y Bardd Llawryfog gan y Brenin neu'r Frenhines yn ôl cyngor y Prif Weinidog.
Mae'r swydd yn dyddio'n ôl i 1668 pan roddodd Siarl II warant frenhinol i John Dryden. Y swyddog presennol yw Simon Armitage.