Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:Navbar/configuration' not found.
Un o Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Barraigh (Saesneg: Barra).
Saif yr ynys, sy'n un gymharol fechan, yn rhan ddeheuol Ynysoedd Allanol Heledd, i'r de-orllewin o ynys fwy Uibhist a Deas, gyda chulfor Caolas Bharraigh yn eu gwahanu. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,078, y rhan fwyaf ohonynt yn siaradwyr Gaeleg ac yn Gatholigion.
Ceir nifer o ynysoedd llai o'i chwmpas, yn cynnwys Eiriosgaigh a Bhatarsaigh. Tir isel yw'r rhan fwyaf o Barraigh, gyda chopa Beinn Eolaigearraidh yn cyrraedd 102 m. Mae fferi i bobl ar droed yn unig ym mhentref bychan Eolaigearraidh yn y gogledd-ddwyrain, yn cysylltu a Ludag ar Uibhist a Deas. Saif maes awyr bychan ar draeth Tràigh Mhòr ar ochr ddwyreiniol yr ynys, gyda'r awyrennau yn glanio ar y traeth ei hun. Y prif bentref yw Bagh a' Chaisteil ("Bae'r Castell"); y castell yw Ceiseamul, eiddo'r clan MacNeil, rheolwyr Barraigh am ganrifoedd. Oddi yma mae fferi i Loch Baghasdail, Oban a Mallaig.