Batasuna

Batasuna
Enghraifft o:plaid wleidyddol yng Ngwlad y Basg Edit this on Wikidata
IdiolegCenedlaetholdeb Basgaidd, annibyniaeth, sosialaeth, Asgell chwith Abertzale Edit this on Wikidata
Daeth i ben3 Ionawr 2013 Edit this on Wikidata
Label brodorolBatasuna Edit this on Wikidata
Rhan oAsgell chwith Abertzale, Basque National Liberation Movement Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1978 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganHerri Batasuna Edit this on Wikidata
PencadlysPamplona Edit this on Wikidata
Enw brodorolBatasuna Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen, Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Plaid wleidyddol o blaid cenedlaetholdeb Basgaidd oedd Batasuna (Basgeg, yn golygu "Undeb").

Sefydlwyd y blaid ym mis Ebrill 1978 fel Herri Batasuna (Undeb y Bobl), fel clymblaid o genedlaetholwyr adain-chwith, yn bennaf o Euskadiko Ezkerra, yn galw am bleidlais "na" yn refferendwm y flwyddyn honno ar gyfansoddiad Sbaen. Yn Etholiad Cyffredinol 1979, enillodd 170,000 o bleidleisiau, 13% o'r bleidlais yn nhaleithiau Gwlad y Basg. Cafodd ei ganlyniad gorau yn etholiad 1990, gyda 18.33% o'r bleidlais yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg.

Rhwng 1998 a 2001, defnyddiai'r blaid yr enw Euskal Herritarrok (Ni ddinasyddion Basgaidd). Cyhoeddwyd Batasuna yn fudiad anghyfreithlon yn Sbaen yn 2003, oherwydd cysylltiadau'r blaid ag ETA. Gwaharddwyd Batasuna gan lywodraeth Sbaen rhag cymryd rhan yn etholiadau Basgaidd 2005, ond daeth plaid newydd, Euskal Herrietako Alderdi Komunista (EHAK, "Plaid Gomiwnyddol y Rhanbarthau Basgaidd") i'r amlwg, gan ddatgan eu bod yn mabwysiadu rhaglen wleidyddol Batasunsa.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne