Bathodyn milwrol a wisgir ar benwisg feddal, megis cap â phig neu het gantel, yw bathodyn cap. Yn gywir, dyler galw bathodyn ar beret yn fathodyn beret, a ni ddyler galw bathodyn ar helmed yn fathodyn cap. Mae'r bathodyn yn nodi cenedligrwydd, trwy liwiau neu symbolau cenedlaethol, uned filwrol, neu reng.[1]