Beatriz Galindo | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | la Latina ![]() |
Ganwyd | Beatriz Galindo ![]() Unknown ![]() Salamanca ![]() |
Bu farw | 23 Tachwedd 1535 ![]() Madrid ![]() |
Dinasyddiaeth | Coron Castilia ![]() |
Galwedigaeth | llenor, meddyg, dyneiddiwr y Dadeni ![]() |
Cyflogwr |
|
Priod | Francisco Ramírez de Madrid ![]() |
Ysgolhaig a bardd o Sbaen yn ystod y Dadeni Dysg oedd Beatriz (neu Beatrix) Galindo (Rhagfyr 1465[1] – 23 Tachwedd 1534) sy'n nodedig am fod yn y fenyw gyntaf yn hanes i gael ei phenodi yn athrawes prifysgol, a hynny ym Mhrifysgol Salamanca.
Ganwyd yn Salamanca, Coron Castilia. Dysgodd i ddarllen ac ysgrifennu yn Lladin dan diwtor, ond roedd ei rhieni yn bwriadu ei danfon i leiandy. Clywodd y Frenhines Isabel am ddoniau'r ferch o Salamanca, a chafodd Beatriz ei galw i'r llys brenhinol i roi gwersi Lladin i'r Dywysoges Juana.[2] Priododd Francisco Ramirez de Madrid ("el Artillero") ym 1491.[3] Bu farw Francisco ym 1501.
Sefydlwyd ysbytyi'r tlawd ym Madrid gan Galindo. Ym Mhrifysgol Salamanca, darlithiodd ar bynciau rhethreg, athroniaeth, a meddygaeth. Ysgrifennodd sawl cyfrol o farddoniaeth Ladin a hefyd sylwebaeth ar weithiau Aristoteles.[2]