![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Argoed ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6954°N 3.2072°W ![]() |
Cod OS | SO166004 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hefin David (Llafur) |
AS/au y DU | Wayne David (Llafur) |
![]() | |
Pentrefan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Bargod, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Bedwellte[1] (Saesneg: Bedwellty).[2] Fe'i lleolir ger pentref Argoed tua 3 milltir i'r gogledd o'r Coed Duon.
Cysegrwyd eglwys y plwyf i Sant Sannan. Ceir Ffynnon Sant Sannan ger yr eglwys. Yr unig le arall a gysylltir â'r sant hwn yw plwyf Llansannan yn Sir Conwy. Mae'n bosibl y bu dau sant o'r un enw, un yn frodor o ogledd Cymru a'r llall yn Wyddel (Gwyddeleg: Senanus/Senan) o dalaith Munster a ymsefydlodd yng Nghymru yn amser Dewi Sant ac a sefydlodd glas ym Medwellte.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Wayne David (Llafur).[5]