![]() | |
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 45,646 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Damien Meslot ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement of Belfort, Territoire de Belfort ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 17.1 km² ![]() |
Uwch y môr | 358 ±1 metr, 354 metr, 650 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Bavilliers, Cravanche, Danjoutin, Denney, Essert, Évette-Salbert, Offemont, Pérouse, Valdoie ![]() |
Cyfesurynnau | 47.6375°N 6.8628°E ![]() |
Cod post | 90000 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Belfort ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Damien Meslot ![]() |
![]() | |
Tref a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc sy'n préfecture (prifddinas) département Territoire de Belfort, yn rhanbarth Franche-Comté yw Belfort (Almaeneg: Beffert). Mae ganddi boblogaeth o 50,417 (1999), neu tua 80,000 yn cynnwys y maesdrefi.
Fe'i lleolir ar afon Savoureuse ar y Trouée de Belfort (Bwlch Belfort), math o fwlch strategol rhwng mynyddoedd y Vosges a'r Jura ar y llwybr naturiol rhwng afonydd Rhein (i'r dwyrain) a Rhône (i'r gorllewin), a adnabyddir hefyd fel y Porte de Bourgogne (Drws Bwrgwyn).
Oherwydd ei lleoliad strategol mae Belfort wedi atynnu ymsefydlwyr ac ymosodwyr ers cyfnod y Rhufeiniaid. Ystyr yr enw yw "caer hardd", a thyfodd y dref o gwmpas yr amddiffynfa. Ceir eglwys gadeiriol hardd yno hefyd.