Ben Stiller | |
---|---|
Ffugenw | Ben Stiller |
Ganwyd | Benjamin Edward Meara Stiller 30 Tachwedd 1965 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, actor, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor llais, actor cymeriad, digrifwr, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, Trekkie, cynhyrchydd, llenor |
Swydd | llysgennad ewyllus da |
Adnabyddus am | Madagascar, Night at the Museum |
Prif ddylanwad | George Carlin, Steve Martin, Bill Cosby, Dick Gregory, Robin Williams |
Taldra | 170 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Jerry Stiller |
Mam | Anne Meara |
Priod | Christine Taylor |
Plant | Quinn Dempsey Stiller, Ella Stiller |
Gwobr/au | Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Emmy, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau |
Mae Benjamin Edward "Ben" Stiller (ganed 30 Tachwedd 1965) yn actor, digrifwr, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau o'r Unol Daleithiau. Ei rieni yw'r digrifwyr a'r actorion Jerry Stiller a Anne Meara.
Dechreuodd Stiller ei yrfa actio yn perfformio dramâu, ond tra'n gwneud hynny ysgrifennodd nifer o raglenni dogfen ffug, a chafodd gynnig dwy sioe i'w hun, gyda'r ddwy sioe yn dwyn yr enw The Ben Stiller Show. Dechreuodd actio mewn ffilmiau, a chyfarwyddodd am y tro cyntaf gyda Reality Bites. Yn ystod ei yrfa mae ef wedi ysgrifennu, actio mewn, cyfarwyddo a/neu chynhyrchu dros 50 ffilm yn cynnwys Heavyweights, There's Something About Mary, Meet the Parents, Zoolander, Dodgeball, Tropic Thunder and Greenberg. Yn ogystal â hyn, mae ef wedi gwneud nifer o ymddangosiadau cameo mewn fideos cerddorol, sioeau teledu a ffilmiau.