République du Bénin (Ffrangeg) Tokpɔn Bɛnin tɔn (Foneg) | |
Arwyddair | Brawdoliaeth, Cyfiawnder, Gwaith |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Enwyd ar ôl | Geneufor Benin |
Prifddinas | Porto-Novo |
Poblogaeth | 14,111,034 |
Sefydlwyd | 1 Awst 1960 (Annibyniaeth oddi wrth Ffrainc) |
Anthem | L'Aube Nouvelle |
Pennaeth llywodraeth | Patrice Talon |
Cylchfa amser | UTC+01:00, Africa/Porto-Novo |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gorllewin Affrica |
Gwlad | Benin |
Arwynebedd | 114,763 ±1 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Bwrcina Ffaso, Niger, Nigeria, Togo |
Cyfesurynnau | 8.83°N 2.18°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Benin |
Corff deddfwriaethol | National Assembly |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Gweriniaeth Benin |
Pennaeth y wladwriaeth | Patrice Talon |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Gweriniaeth Benin |
Pennaeth y Llywodraeth | Patrice Talon |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $17,690 million, $17,402 million |
Arian | franc CFA Gorllein Affrica |
Canran y diwaith | 1 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 4.766 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.525 |
Gwlad ar arfordir deheuol Gorllewin Affrica yw Gweriniaeth Benin neu'n syml, Benin. Mae'n ffinio â Togo i'r gorllewin, Nigeria i'r dwyrain, Bwrcina Ffaso i'r gogledd-orllewin, a Niger i'r gogledd-ddwyrain.
Yr enw blaenorol oedd Dahomey.[1] Mae mwyafrif ei phoblogaeth yn byw ar arfordir deheuol Geneufor Benin, rhan o Gwlff Gini yn rhan fwyaf gogleddol Cefnfor yr Iwerydd.[2] Y brifddinas yw Porto-Novo, ac mae sedd y llywodraeth yn Cotonou, dinas fwyaf poblog a phrifddinas economaidd y wlad. Mae Benin yn 112,622 km2 (43,484 mi sgw), ac amcangyfrifwyd bod ei phoblogaeth yn 2021 oddeutu 13 miliwn.[14] Mae'n wlad drofannol gydag economi sy'n ddibynnol iawn ar amaethyddiaeth ac mae'n allforiwr olew palmwydd a chotwm.[3][4]
O'r 17g i'r 19g, roedd endidau gwleidyddol yr ardal yn cynnwys Teyrnas Dahomey, dinas-wladwriaeth Hogbonu, a gwladwriaethau eraill i'r gogledd. Cyfeiriwyd at y rhanbarth hwn fel Arfordir Caethweision Gorllewin Affrica o ddechrau'r 17g oherwydd y nifer uchel o bobl a werthwyd ac a fasnachwyd yn ystod masnach gaethweision yr Iwerydd i'r Byd Newydd. Meddiannodd Ffrainc y diriogaeth yn 1894, gan ei hymgorffori yng Ngorllewin Affrica Ffrengig a'i galw'n 'Dahomey Ffrengig'. Ym 1960, enillodd Dahomey annibyniaeth lawn oddi wrth Ffrainc. Fel gwladwriaeth sofran, mae Benin wedi cael llywodraethau democrataidd, coups milwrol, a llywodraethau milwrol. Roedd gwladwriaeth Farcsaidd-Leninaidd o'r enw Gweriniaeth Pobl Benin yn bodoli rhwng 1975 a 1990. Ym 1991, fe'i disodlwyd gan Weriniaeth amlbleidiol Benin.[5]
Ffrangeg yw iaith swyddogol Benin, ac mae'r ieithoedd brodorol Foneg, Baribeg, Yorubeg a Dendieg hefyd i'w clywed. Y grefydd mwyaf poblogaidd yn Benin yw Cristnogaeth (52.2%), ac yna Islam (24.6%) ac yna Crefyddau Traddodiadol Affricanaidd (17.9%).
Mae Benin yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Affricanaidd, Cymuned Economaidd Taleithiau Gorllewin Affrica, Y Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd, Parth Heddwch a Chydweithrediad De'r Iwerydd, Francophonie, Cymuned Taleithiau Sahel - Sahara, Cymdeithas Cynhyrchwyr Petroliwm Affrica ac Awdurdod Basn Niger.