Enghraifft o: | grŵp ethnig |
---|---|
Math | llwyth, Afroasiatic peoples |
Poblogaeth | 24,000,000 |
Crefydd | Swnni, cristnogaeth, iddewiaeth |
Rhan o | Afroasiatic peoples |
Yn cynnwys | Kabyle people, Chaoui people, Tachelhit people, Riffian people, Ghomara |
Gwladwriaeth | Moroco, Algeria, Niger, Mali, Libia, Bwrcina Ffaso, Tiwnisia, Mawritania, Yr Aifft |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ethnig yng Ngogledd Affrica yw'r Berberiaid. Hwy yw trigolion brodorol yr ardal o Ogledd Affrica i'r gorllewin o ddyffryn Afon Nîl ac i'r gogledd o Afon Niger. Ieithoedd brodorol y Berberiaid yw'r ieithoedd Berber, sy'n gangen o'r ieithoedd Affro-Asiaidd. Erbyn heddiw, mae llawer o'r Berberiaid yn Arabeg eu hiaith, ond mae rhwng 14 a 25 miliwn o siaradwyr yr ieithoedd Berber yn byw yng Ngogledd Affrica, y rhan fwyaf yn Algeria a Moroco, ond hefyd mewn rhannau eraill o'r Maghreb a thu hwnt.
Kabylie yw'r enw Berber am diriogaeth y Berberiaid yn y Maghreb. Defnyddir yr enw weithiau i olygu tiriogaeth draddodiadol y Berberiaid yn ei chyfanrwydd - ac felly'n cynnwys rhannau mawr o Foroco ac Algeria a darn o Tiwnisia - ond am resymau gwleidyddol mae'n tueddu i gael ei gyfyngu i'r rhan o Algeria sy'n gadarnle i'r Berberiaid heddiw.
Enw llawer o'r Berberiaid arnynt eu hunain yw Imazighen (unigol Amazigh) neu amrywiad o hyn, efallai'n golygu "y bobl rydd" ond mae amheuaeth ynglŷn â hyn. Enw'r Rhufeiniaid ar rai o'r Berber oedd y "Mazices", oedd a'r ystyr "dynion rhydd" yn ôl Leo Africanus. Daw'r gair "Berber" o'r Arabeg.