Bernard Madoff | |
---|---|
![]() Ffotograff Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau o Bernard Madoff, 2009. | |
Ganwyd | 29 Ebrill 1938 ![]() Queens, Dinas Efrog Newydd ![]() |
Bu farw | 14 Ebrill 2021 ![]() Federal Medical Center, Butner ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | brocer stoc, ariannwr, economegydd, banciwr ![]() |
Tad | Ralph Madoff ![]() |
Priod | Ruth Madoff ![]() |
Plant | Mark Madoff, Andrew Madoff ![]() |
Cyn-ddyn busnes, brocer stoc, cynghorwr buddsoddi, ac ariannwr Americanaidd oedd Bernard Lawrence "Bernie" Madoff (/[invalid input: 'icon']ˈmeɪdɒf/;[1] 29 Ebrill 1938 – 14 Ebrill 2021).[2] Ef oedd cyn-gadeirydd anweithredol y farchnad stoc NASDAQ, ac roedd tu ôl i'r cynllun Ponzi mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau.
Ym mis Mawrth 2009, plediodd Madoff yn euog i 11 o feloniaethau: twyll gwarantau, twyll cynghori buddsoddwyr, twyll post, twyll gwifr, prosesu arian anghyfreithlon yn rhyngwladol i alluogi twyll wrth werthu gwarantau, prosesu arian anghyfreithlon yn rhyngwladol i guddio elw o dwyll wrth werthu gwarantau, prosesu arian anghyfreithlon, gwneud datganiadau anwireddus, anudoniaeth, gwneud cofnod anwireddus â'r Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid, a lladrad o gynllun budd-daliadau gweithwyr.[3] Cafodd ei ddedfrydu i'r carchar am 150 mlynedd lle bu farw yn 82 mlwydd oed.[4]