Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dyffryn Arth ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.2509°N 4.0896°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghanolbarth Ceredigion yw Bethania( ynganiad ). Fel sawl lle arall, yn cynnwys Bethania, Gwynedd, fe'i enwir ar ôl dinas Feiblaidd Bethania.
Lleolir Bethania ar groesffordd wledig tua 7 milltir i'r dwyrain o Aberaeron a thua 13 milltir i'r de o Aberystwyth, wrth lethrau deheuol Y Mynydd Bach. Y pentrefi agosaf yw Penuwch i'r dwyrain a Cross Inn i'r gorllewin.
Dyma gartref cwmni dŵr mwyn Tŷ Nant. Mae'r dŵr mwyn enwog yn tarddu o ffynnon ar dir fferm Tŷ Nant, ger y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]