![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 249, 245 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,900.26 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.08°N 4.163°W ![]() |
Cod SYG | W04000050 ![]() |
Cod OS | SH535575 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref gwledig a chymuned yn ardal Arfon, Gwynedd, yw Betws Garmon ( ynganiad ). Saif ar yr A4085 ar ymyl Eryri, traean o'r ffordd rhwng Caernarfon a Beddgelert; Cyfeirnod OS: SH 54546 56819. Ar hyd y ffordd i gyfeiriad y gogledd, Waunfawr yw'r pentref agosaf ac i'r de mae'r ffordd yn ei gysylltu â Salem a Rhyd-ddu, pentref genedigol T. H. Parry-Williams.
Mae lleoliad y pentref yng ngogledd Eryri gyda bryniau Moel Eilio (2382') i'r dwyrain a thalp Mynydd Mawr (2290') i'r de-orllewin. Llifa Afon Gwyrfai sy'n tarddu yn Llyn Cwellyn tair milltir i'r de, heibio i'r pentref, sy'n sefyll ar ei glan ddwyreiniol. Filltir y tu allan i'r pentref i'r de, ar ymyl yr A4085, mae Melin y Nant a'i rhaeadr fach.