Eglwys Sant Beuno, Betws Cedewain | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Betws Cedewain |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.561°N 3.295°W |
Cod OS | SO122967 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Betws Cedewain (Saesneg: Bettws Cedewain). Saif i'r gogledd o'r Drenewydd ar y ffordd B4389. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 425.
Hyd at 1914, eiddo i stad Gregynog oedd y rhan fwyaf o'r ffermydd.
Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio yn bennaf o'r 19g ond gyda tŵr o'r 16g, i sant Beuno. Daw enw'r pentref o gantref Cedewain.
Brodor o blwyf Betws Cedewain oedd y bardd ac achyddwr Lewys Dwnn (bl. 1568 - 1616).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]