Beulah, Ceredigion

Beulah
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,627, 1,762 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,063.57 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0873°N 4.5011°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000360 Edit this on Wikidata
Cod OSSN289461 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Beulah (gwahaniaethu).

Pentref bychan a chymuned yng Ngheredigion yw Beulah("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif hanner ffordd rhwng tref Castell Newydd Emlyn a phentref glan-môr Aberporth ar Fae Ceredigion.

Mae ardal Cyngor Cymuned Beulah yn cynnwys pentrefi Bryngwyn, Llandygwydd, Betws Ifan, Cwm Cou a'r rhan fwyaf o bentref Cenarth ar lannau afon Teifi ac yn gartref i dros 1,500 o bobl (1,586, Cyfrifiad 2001), 54% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, gyda 45% o'r boblogaeth wedi eu geni y tu allan i Gymru (Cyfrifiad 2001). O blith y trigolion sydd yn enedigol o Gymru, mae bron i 90% yn Gymry Cymraeg (cyfeiriad yn eisiau), felly mae'r cyferbyniad diwylliannol ac ieithyddol rhwng y brodorion a'r mewnfudwyr yn amlwg iawn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne