![]() | |
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 25,810 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pyrénées-Atlantiques, Lapurdi, arrondissement Baiona ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Arwynebedd | 11.66 km² ![]() |
Uwch y môr | 27 metr ![]() |
Gerllaw | Bae Bizkaia ![]() |
Yn ffinio gyda | Angelu, Arbonne, Arcangues, Bidart ![]() |
Cyfesurynnau | 43.4806°N 1.5572°W ![]() |
Cod post | 64200 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Biarritz ![]() |
![]() | |
Dinas yn Ngwlad y Basg, yn Iparralde sef yng ngwladwriaeth Ffrainc, yw Biarritz (Ffrangeg: Biarritz, Basgeg: Biarritz(e) neu Miarritze). Saif yn département Pyrénées-Atlantiques. Mae tua 38 km o ddinas Donostia yn y rhan o Wlad y Basg sydd yn Sbaen. Mae poblogaeth o 25,810 (1 Ionawr 2022).
Mae Biarritz yn enwog am ei thraethau, sy'n denu miloedd o ymwelwyr. Oherwydd poblogrwydd ymdrochi yma, tyfodd o fod yn bentref pysgota bychan yn 1843 pan ddarganfu Victor Hugo y lle, i fod yn ddinas bwysig erbyn diwedd y 19g. Yn 1854, adeiladodd yr ymerodres Eugénie, gwraig Napoléon III, balas yma. Adeiladwyd y casino enwog yn 1901.