Logo rhyngwladol Big Brother | |
Enghraifft o: | masnachfraint |
---|---|
Crëwr | John de Mol jr. |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Dechreuwyd | 16 Medi 1999 |
Genre | adloniant, Teledu realiti |
Perchennog | Banijay Entertainment |
Cwmni cynhyrchu | Endemol |
Dosbarthydd | Endemol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Big Brother ("Y Brawd Mawr") yn un o'r rhaglenni teledu realiti mwyaf poblogaidd yn y byd. Ers y gyfres gyntaf ar y sianel deledu Veronica yn yr Iseldiroedd ym 1999 mae wedi lledaenu i bedwar ban y byd, yn cynnwys Prydain lle gwelwyd y gyfres gyntaf yno yn 2000. Gwelir fersiynau o'r sioe mewn bron 70 gwlad. Daw enw'r sioe o nofel 1949 George Orwell, Nineteen Eighty-Four.