Big Leaves

Big Leaves
Enghraifft o:band Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Label recordioAnkst Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1988 Edit this on Wikidata
Genreroc indie Edit this on Wikidata

Band poblogaidd o Waunfawr, Caernarfon oedd Big Leaves (Beganifs yn wreiddiol). Ffurfiwyd y band yn wreiddiol pan oedd yr aelodau yn eu arddegau ac yn ddisgyblion yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.[1] Mabwysiadwyd yr enw "Beganifs" ar ôl y glas-enw lleol ar bobol y Waunfawr.[2]

Yn y 1990au gwahoddwyd y band i berfformio mewn gŵyl yn Amsterdam a saethwyd fideo yno. Camglywodd rastaffarian lleol enw'r band fel 'Big Leaves' - ac fe sticiodd yr enw. Daeth EP cyntaf y band gyda'r enw newydd yn 1998.[3]

Fe wnaeth y band roi'r ffidl yn y to yn 2005. Alien & Familiar oedd albwm olaf y band ac yn gampwaith ymysg nifer o senglau ag albymau penigamp a gyhoeddwyd gan y band. Yn y blynyddoedd cynnar roedd potensial y band dwyieithog yn amlwg, a honnwyd i Liam Gallagher o'r band byd-enwog Oasis ddewis '‘Fine'’ fel sengl y flwyddyn yn 2000.

Cyn hynny, roedden nhw wedi rhyddhau'r cyntaf o ddau albwm: Pwy Sy’n Galw?. Albwm uniaith Gymraeg ydoedd, a gynhwysai eu cân enwocaf, ‘'Seithenyn'’. Dywedodd Rhodri Siôn mewn cyfweliad - "Our song 'Seithenyn' has a middle eight that's like a Welsh Bohemian Rhapsody. It's a song about this Welsh legend. There's barber shop singing in the middle!"[3] Rhyddhaodd y band nifer o EPs o safon a thyfodd eu statws fel band ‘byw’ ardderchog.

Gydag ychydig mwy o gyhoeddusrwydd, nid oes amheuaeth y gallai Big Leaves fod wedi ehangu eu henw da a dyfod yn un o’r bandiau mwyaf poblogaidd i’w geni yng Nghymru, gan ddilyn olion traed y Super Furry Animals a’r Manic Street Preachers.[angen ffynhonnell]

  1.  CYFWELIAD / INTERVIEW: Osian Gwynedd - Sibrydion. Blog Bachu Sylw (1 Mehefin 2011). Adalwyd ar 6 Mawrth 2017.
  2.  BIG LEAVES - Bywgraffiad. Sain. Adalwyd ar 6 Mawrth 2017.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Big Leaves biography. BBC (30 Ionawr 2009). Adalwyd ar 6 Mawrth 2017.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne