Bill Hader | |
---|---|
Ganwyd | William Thomas Hader Jr. 7 Mehefin 1978 Tulsa |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, actor teledu, actor ffilm, actor llais, showrunner, cyfarwyddwr ffilm, cerddor, awdur teledu, cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu, sgriptiwr |
Priod | Maggie Carey |
Partner | Rachel Bilson, Anna Kendrick, Ali Wong |
Gwobr/au | Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Comedy Series, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Comedy Series |
Mae William Thomas "Bill" Hader (ganed 7 Mehefin 1978)[1] yn actor, actor llais, comedïwr, ac ysgrifennwr Americanaidd. Fe'i adnabyddir am ei waith fel aelod cast Saturday Night Live (2005–2013), yn derbyn tri enwebiad Emmy am hyn, South Park (2009–presennol), a'i gyfres barodi Documentary Now! (2015–presennol).
Adnabyddir Hader am ei waith cefnogol mewn ffilmiau comedi, megis You, Me and Dupree (2005), Superbad (2007), Forgetting Sarah Marshall (2008), Tropic Thunder (2008), Night at the Museum: Battle of the Smithsonian (2009), Paul (2011), a Men in Black 3 (2012). Mae hefyd wedi cael prif rannau llais yn Cloudy with a Chance of Meatballs (2009) ac Inside Out (2015), yn ogystal â prif rannau yn y dramedi The Skeleton Twins (2014) a'r comedi rhamantaidd Trainwreck (2015).